Mynydd Hiraethog
Mae Mynydd Hiraethog ym mhen gogleddol
Mynyddoedd y Cambria ac mae’n cwmpasu rhannau mynyddig darnau eang
a naturiol o dir i’r de, rhwng prif ddyffrynnoedd afonnydd Clwyd a
Chonwy yng Ngogledd Cymru.
Crynodeb
John Osley ⓗCCGC
Rhif cyf: HLW (C) 5
Rhif map AO: Landranger 116
Awdurdod unedol: Conwy, Sir Ddinbych
Mae’n ardal llwm ac anial o rostir tonnog sydd ond sydd â sawl
dyffryn yn torri ar draws yr ochrau gogleddol a dwyreiniol gan
dreiddio i’r craidd mynyddig.
Fodd bynnag, rhannau gogleddol a gorllewinol y mynydd yn unig
yw’r ardaloedd a ddisgrifir yma fel tirwedd sydd yn cynnwys
goroesiad trwch di-dor o rostir grug, sydd yn brin iawn yng
Nghymru, a reolwyd ac a gynhaliwyd yn fwriadol fel rhostir ceiliog
y mynydd a stad saethu ar ddechrau’r 20fed ganrif. Cafodd ei
ddethol i beidio â chynnwys y rhan fwyaf o’r rhan ddwyreiniol sy’n
cynnwys planhigfeydd coedwigaeth helaeth sy’n rhan o Fforest
Cloclaenog.
Mae’r tirwedd rhostir hwn, fel sawl ardal fynyddig arall yng
Nghymru wedi tarddu o economïau ucheldir Neolithig ac Oes yr Efydd
neu, yn ôl dehongliadau o dystiolaeth archaeolegol o rannau eraill
o Brydain, sydd hwyrach a’i wreiddiau yn y cyfnod Mesolithig
blaenorol, pryd yr awgrymir i ardaloedd rhostir gael eu llosgi a’u
clirio’n fwriadol ar gyfer hela. Newidiodd tirwedd cynhanesyddol yr
ucheldiroedd wedi hynny wrth iddynt gael eu defnyddio ar gyfer pori
yn yr haf dros sawl tymor, arfer a oedd yn seiliedig ar aneddiadau
dros dro yn ystod yr haf neu’r hafodau a leolwyd yn y dyffrynnoedd
neu ar hyd ymylon y rhostir.
Mae disgrifiad llawn o'r ardal dirwedd yma wedi ei gyhoeddi ac
ar gael yn awr i'w lawrlwytho fel pdf o fewn yr adran Erthyglau
Cysylltiedig isod.
Prif ddynodiadau:
Mae’r ardal bron yn gyfan gwbl o fewn Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig Mynydd Hiraethog.
Meini prawf: 3
Cynnwys ac arwyddocad:
Tirwedd rhostir bryniog trawiadol iawn yr olwg sy’n cynnwys rhan
ganol a gorllewinol Mynydd Hiraethog a leolir rhwng prif
ddyffrynnoedd afonnydd Clwyd a Chonwy yng Ngogledd Cymru. Mae’r
ardal yn cynrychioli rhostir grug helaeth di-dor, sydd erbyn hyn yn
brin iawn yng Nghymru, a gafodd ei reoli a’i gynnal yn fwriadol fel
rhostir i geiliogod mynydd a stad saethu ar ddechrau’r 20fed
ganrif. Ceir yno hefyd mewn rhannau helaeth yr holl dystiolaeth
archaeolegol gorchuddiol o ddefnydd tir cyfnodau dilynol o’r
cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol a diweddarach.