Gŵyr
Mae penrhyn Gwyr yn ardal ddaearyddol wedi'i
diffinio'n glir sy'n cynnwys amrywiaeth o dirweddau o glogwyni
calchfaen serth a baeau tywodlyd tawel ar arfordir y de, pentiroedd
hir, ysblennydd tua'r gorllewin, a thwyni tywod a chorsydd dwˆr
heli ar hyd arfordir y gogledd.
Crynodeb
Hawlfraint y Goron:CBHC
Rhif cyf: HLW (WGl) 1
Map AO: Landranger 159
Awdurdod unedol: Abertawe
I mewn yn y tir, mae'r llwyfandir arfordirol tonnog, ysgafn yn
ildio i fryniau a chefnau uwch, megis Cefn Bryn y pennaf, sy'n
hollti'r penrhyn yn daclus yn ddau.
Yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hon, y gyntaf ym
Mhrydain (1956), ceir safleoedd archeolegol o'r mwyafrif o
gyfnodau, sydd yn feicrocosm digymar o gyfoeth hanesyddol Cymru.
Nodwyd isod y ddwy ardal fwyaf cyflawn, archeolegol gyfoethog, sydd
wedi goroesi orau ar y penrhyn.
Mae disgrifiad llawn o'r ardal dirwedd yma wedi ei gyhoeddi ac
ar gael yn awr i'w lawrlwytho fel pdf o fewn yr adran Erthyglau
Cysylltiedig isod.
Prif ddynodiadau helaeth:
Mae'r ddwy ardal o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Gwyr. Mae ardal Gorllewin Gwyr yn cynnwys: Gwarchodfeydd Natur
Cenedlaethol Twyni Whiteford ac Arfordir Gwˆyr; Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig Twyndir Rhosili; Heneb Cofrestredig gwersylloedd
Twyndir Hardings; Ardaloedd Cadwraeth Cheriton, Llangennydd,
Llanmadog, Porth Einion a Rhosili. Mae bron y cyfan o Gefn Bryn o
fewn safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Comin Cefn Bryn.
Meini prawf: 2, 3
Cynnwys ac arwyddocâd:
Y ddwy ardal hanesyddol, gyfoes ond ar wahân yn dopographic,
sydd wedi goroesi orau a'r mwyaf cyflawn yng Ngwyr, yn cynnwys
tystiolaeth gyfoethog digymar o ddilyniant maith o ddefnydd tir a
phreswyliad o'r cyfnod cynhanesyddol tan y cyfnod diwydiannol.
Mae'r ardaloedd yn cynnwys:
ogofâu Uwch Balaeolithig; siambrau claddu Neolithig; safleoedd
angladdol a defodol o Oes yr Efydd; bryngaerau a chaerau pentir o
Oes yr Haearn; aneddiadau canoloesol crefyddol a seciwlar, gan
gynnwys pentref canoloesol coll Rhosili a chyfundrefn caeau agored
y Vile; ty halen Porth Einion o'r 16eg ganif, ac olion diwydiannol
diweddar eraill.