Trefdraeth a Charningli
Mae bwrdeistref canoloesol bychan Trefdraeth
ar lannau deheuol aber Afon Nyfer o fewn Bae Trefdraeth ar y prif
lwybr arfordirol o Aberteifi i Dŷ Ddewi yng ngogledd Sir
Benfro.
Crynodeb
Hawlfraint y Goron:CBHC
Rhif cyf: HLW (D) 15
Map AO: Landranger 145
Awdurdod unedol: Sir Benfro
I’r de o’r gwastadedd arfordirol sydd rhwng 50 a 100m o uchder,
esgynna’r tir yn serth i gopaon Carningli sydd 347m ac sy’n
goruchafu dros rostir agored bryniau gogleddol y Preseli. Mae’r
amgylchedd naturiol trawiadol hwn a’r diffyg datblygiad ar raddfa
fawr yn y dref a’r ardal o’i chwmpas yn ystod y cyfnodau
ôl-ganoloesol a modern, yn golygu bod y topograffi canoloesol wedi
goroesi’n dda a bod elfennau cydrannol arglwyddiaeth ganoloesol y
Gororau — tref, caeau, melinau, tir pori comin — naill ai wedi’u
ffosileiddio yn y tirwedd presennol neu’n parhau fel elfennau
gweithiol.
Mae’r tirwedd Eingl-Normanaidd yma a grëwyd gan arglwyddi
Fitzmartin o Gemaes yn gorwedd dros dirwedd cynharach, brodorol
Cymreig o aneddiad gwasgaredig, er nad yw wedi’i guddio’n llwyr.
Mewn rhai ardaloedd, mae’r ffin bresennol rhwng tir fferm amgaeëdig
a rhostir agored wedi encilio o derfynau amaethu cynt, gyda cyn
gaeau yn parhau ar y naill ochr i lwybrau sy’n arwain i’r ardaloedd
pori agored. Mewn eraill, mae llawer o gaeau bychain sgwâr a
bythynnod yn cynrychioli tresmasiad diweddar ar rostir agored yn y
1830au a’r 1840au, cyfnod cythryblus o brinder ac awch am dir, a
wellwyd yn rhannol gan allfudo.
Yn uwch i fyny’r llethrau dros lwyfandir islaw creigiau garw
Carningli ceir cylchoedd cytiau ac amgaeadau cysylltiedig, gyda
ffiniau ymledol y tybir eu bod yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol.
Nid yw amgaeadau waliau sych Carn Ingli yn cydymffurfio â mathau o
fryngaerau safonol Oes yr Haearn ac mae dyddiad Neolithig wedi cael
ei awgrymu. Yn ddiweddar ymgymerwyd ag astudiaeth
aml-ddisgyblaethol mewn technegau mapio modelu tir dros Gomin
Carningli, a ysbrydolwyd yn rhannol gan waith cynharach oedd yn
cynnwys mapio nodweddion archaeolegol yn fanwl o luniau ar osgo o’r
awyr o lethrau gogleddol Bryniau Preseli, sef project a amlygodd y
cyfoeth o olion archaeolegol yn yr ardal ac a ddangosodd ei
hadnoddau cudd sylweddol ar gyfer dadansoddi pellach.
Mae disgrifiad llawn o'r ardal dirwedd yma wedi ei gyhoeddi ac
ar gael yn awr i'w lawrlwytho fel pdf o fewn yr adran Erthyglau
Cysylltiedig isod.
Prif ddynodiadau:
Mae’r ardal yn gyfan gwbl o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir
Benfro ac Ardal Amgylchedd Arbennig y Preseli. Mae’r ardal yn
cynnwys : rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Comin
Carningli; Safle Gwarchodaeth siambr gladdu Neolithig Carreg Coetan
Arthur; Henebion Cofrestredig gwersyll Carn Ingli a Chastell
Trefdraeth (y darnau heb breswylwyr); Ardaloedd Cadwraeth
Trefdraeth, a Threfdraeth a’r Parrog.
Meini prawf: 2, 3
Cynnwys ac arwyddocad:
Mae’r bloc anghysbell o uwchdir a ganolir ar Garningli ar ben
gogledd-orllewinol Bryniau Preseli yn cynnwys cyfoeth o olion
archaeolegol hynafol ac olion eraill, gyda rhai ohonynt yn parhau
fel elfennau gweithiol yn y tirwedd heddiw, a’r cyfan yn
cynrychioli defnydd a threfniant amrywiol o’r tir o’r cyfnodau
cynhanesyddol, canoloesol a diweddarach.
Mae’r ardal yn cynnwys:
henebion cynhanesyddol defodol ac angladdol, safleoedd
amddiffynnol, aneddiadau a chyfundrefnau caeau, oll wedi goroesi’n
dda; castell canoloesol, tref a bwrdeistref Trefdraeth; amgaeadau
ac aneddiadau gwasgaredig o’r ôl-ganoloesoedd a chyfnod
diweddarach.