Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Ynys Selyf

Er mai ond oddeutu 600m sy'n gwahanu'r tir mawr oddi wrth Ynys Selyf ac ynys fach Midland tua'r dwyrain iddi, nid hawdd cyrchu ati yn wyneb toreth y creigiau yn Swnt Siôn gyda'i ddylifiadau llanw ffyrnig, clogwyni uchel yr ynys a'i hafanau anodd. Mae'r ynys heddiw'n enwocach fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Gwarchodfa Natur y Môr gyda'i chynefinoedd adar môr pwysig, ond mae ei harcheoleg yr un mor nodweddiadol.

Crynodeb

Hawlfraint y Goron:CBHC

Rhif cyf: HLW (D) 6

Map AO: Pathfinder 1102 (SM 70)

Awdurdod unedol: Sir Benfro

Fe gynnwys olion creiriol helaeth o gaeau cynhanesyddol a'u haneddiadau bach cysylltiol, y cyfan yn ficrocosm o dirwedd arwahanedig naturiol.

Yn y Canol Oesoedd defnyddid yr ynys ar gyfer ffarmio cwningod, sef dull newydd a gyflwynwyd yn llwyddiannus gan y mewnfudwyr Normanaidd yn y 12fed ganrif ar amgylcheddau twyni ac ynysoedd yn Ne Cymru.

Ers y Rhyfel diwethaf arolygwyd y cyfundrefnau caeau cynhanesyddol droeon. Gyda ffotograffau o’r awyr cafwyd rhagor o fanylion am y cyfundrefnau caeau, ond ceir posibiliadau o hyd i ragor o waith yn y dyfodol. Hefyd mae’r fantais y gellir gweld olion archeolegol ar Ynys Selyf a gall y cyhoedd yn ogystal â’r arbenigwr fynd atynt a’u deall.

Mae disgrifiad llawn o'r ardal dirwedd yma wedi ei gyhoeddi ac ar gael yn awr i'w lawrlwytho fel pdf o fewn yr adran Erthyglau Cysylltiedig isod.

Prif ddynodiadau helaeth:

Mae Ynys Selyf ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae'n Warchodfa Natur Genedlaethol, Gwarchodfa Natur y Môr ac yn Heneb Cofrestredig.

Meini prawf: 2


Cynnwys ac arwyddocâd:

Ar Ynys Selyf, gerllaw arfordir de Sir Benfro, ceir microcosm caeth o weithgarwch dynol, gydag olion creiriol helaeth da o aneddiadau cynhanesyddol, cyfundrefnau caeau a gweithgareddau amaethyddol diweddar.



Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirwedd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen