Penrhyn Tyddewi ac Ynys Dewi
Mae hen greigiau daearegol, Cyn-Gambriaidd a
Chambriaidd yn bennaf, gydag ymwthiadau igneaidd diweddarach, wedi
ffurfio Penrhyn Tyddewi ac Ynys Dewi ym mhen gogledd orllewinol
llwyfandir arfordirol Sir Benfro.
Crynodeb
Hawlfraint Skyscan, i Cadw: Henebion
Hanesyddol Cymru
Rhif cyf: HLW (D) 4
Map AO: Landranger 157
Awdurdod unedol: Sir Benfro
Yn yr ardal, ceir tystiolaeth o weddillion creiriol defnydd tir,
gweithgaredd defodol a chrefyddol o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen,
gan barhau i'r cyfnod Cristnogol fel Bro Ddewi, cartref a thir Dewi
Sant, nawdd-sant Cymru. Dyma, o bosibl, un o dirweddau diwylliannol
pwysicaf a mwyaf arwyddocaol Cymru heddiw.
Y 'ddinas', yr Eglwys Gadeiriol a'r ardal o'i chwmpas yw un o
brif atyniadau ymwelwyr Cymru heddiw.
Mae disgrifiad llawn o'r ardal dirwedd yma wedi ei gyhoeddi ac
ar gael yn awr i'w lawrlwytho fel pdf o fewn yr adran Erthyglau
Cysylltiedig isod.
Prif ddynodiadau helaeth:
Mae'r ardal gyfan o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae
Penrhyn Tyddewi yn Ardal Amgylchedd Arbennig Preseli. Mae'r ardal
yn cynnwys: Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Ynys Dewi,
Rhostiroedd Maes Awyr Tyddewi, Arfordir Penrhyn Tyddewi ac Ynys
Dewi; Safle Gwarchodaeth Plas Esgob Tyddewi; Henebion Cofrestredig
cytiau crynion ac amgaeadau hynafol Carn Llidi; clos Cadeirlan
Tyddewi; Ardal Gadwraeth Tyddewi.
Meini prawf: 2, 5
Cynnwys ac arwyddocâd:
Penrhyn ac ynys yng ngogledd orllewin llwyfandir arfordirol Sir
Benfro, sydd â thystiolaeth helaeth wedi'i chadw'n dda o ddefnydd
tir a chryn weithgaredd defodol a chrefyddol o'r cyfnod
cynhanesyddol ymlaen.
Mae'r ardal yn cynnwys:
siambrau claddu ac aneddiad Neolithig; ceyrydd a chyfundrefnau
caeau o Oes yr Haearn; Mynyw, canolfan cwlt ganoloesol gynnar Dewi
Sant; Eglwys Gadeiriol Tyddewi, y clôs a'r 'ddinas' a'u lleoliad
sydd yn dal ag arwyddocâd a phwysigrwydd diwylliannol eithriadol
yng Nghymru fel Bro Ddewi.