Sicrhau Ansawdd LANDMAP
Mae’r broses Sicrhau Ansawdd yn gwirio
cysondeb a chywirdeb Gwybodaeth fel y medrir cynnal hyder ac
addasrwydd i bwrpas.
Bwriad Proses Sicrwydd Ansawdd LANDMAP yw sicrhau bod Gwybodaeth
LANDMAP yn cyrraedd safon y cytunwyd arni o ran ymarfer da. Bydd
Aseswyr Sicrwydd Ansawdd hyfforddedig yn gwirio arolygon, mapiau a
dogfennau sy’n gysylltiedig â LANDMAP er mwyn cynnal hyder yng
Ngwybodaeth LANDMAP.
Pwrpas y broses Sicrwydd Ansawdd yw:
- Sefydlu Safonau cydnabyddedig ar gyfer ansawdd Gwybodaeth
LANDMAP
- Sefydlu enw da i Wybodaeth LANDMAP sy’n seiliedig ar sicrwydd a
chysondeb
- Datblygu gweithdrefnau a fydd yn helpu i gyrraedd y Safon honno
ac a fydd yn sicrhau cydymffurfiad parhaus â’r safonau a
bennwyd
- Datblygu fframwaith ar gyfer rheoli’r cyfrifoldebau Sicrwydd
Ansawdd fel eu bod yn cael eu hintegreiddio’n effeithlon yn
LANDMAP
Rhaid i Wybodaeth LANDMAP fynd drwy’r broses Sicrwydd Ansawdd.
Bydd data sydd wedi bod drwy’r Safonau Sicrwydd Ansawdd hyn yn dod
yn Wybodaeth LANDMAP a byddant wedi cael eu dilysu fel gwybodaeth
sy’n gyson, yn gywir ac o safon uchel.
Mae Gweithdrefn Sicrwydd Ansawdd LANDMAP (2007) yn cynnig
arweiniad i Arbenigwyr Agweddau sy’n casglu Gwybodaeth LANDMAP,
pobl sy’n defnyddio’r wybodaeth ac Aseswyr Sicrwydd Ansawdd. Yn
fyr, mae’r Weithdrefn Sicrwydd Ansawdd yn darparu canllawiau
sicrwydd ansawdd, yn egluro’r safonau y mae’n rhaid eu cyrraedd,
rôl y panel Sicrwydd Ansawdd a’r broses gyffredinol, o gyflwyno
gwybodaeth i statws sicrwydd.
Mae’r Broses Sicrwydd Ansawdd yn cael ei goruchwylio a’i
gweithredu gan y Panel Sicrwydd Ansawdd. Mae aelodau’r Panel yn
cynnwys cynghorwyr o Gyngor Cefn Gwlad Cymru ynghyd ag aelodau
allanol sy’n gweithio dan gontract.
Erthyglau Perthnasol...
Gweler Hefyd...
Mapiau LANDMAP
Mynediad at ddata LANDMAP ar-lein
Mewngofnodi i Wefan LANDMAP
Mynediad i'r gronfa ddata
Maer ddofgennau isod mewn Saesneg yn unig.