Asesu’r newidiadau
Mae datblygiadau – unrhyw beth sy’n gofyn am
hawl cynllunio – yn newid tirwedd. Maen nhw’n cael “effaith” ar y
dirwedd.
Beth bynnag yw gwerth unrhyw ddatblygiad, mae’n bwysig sicrhau
ei fod yn y lle iawn ac wedi ei gynllunio i weddu â’r dirwedd o’i
gwmpas. Dyna pam ein bod yn asesu effeithiau datblygiadau.
Gall y broses fod yn gymhleth os yw’r
datblygiad yn fawr neu’r lleoliad yn sensitif. Dyna pam fod dulliau
o asesu effaith ar dirwedd wedi eu datblygu. Mae’r rhain yn rhan o
broses ehangach o fesur effeithiau amgylcheddol.
Newidiadau i dirwedd a golygfeydd
Byddwn fel arfer yn gwahaniaethu rhwng yr
effaith ar dirwedd (newid i gymeriad lle) ac effeithiau gweledol
(sut y mae golygfeydd i’w gweld yn newid). Byddwn hefyd yn
gwahaniaethu rhwng disgrifio’r newidiadau a barnu a ydyn nhw i’w
croesawu ai peidio.
Fyddwn ni ddim yn ceisio atal pob datblygiad.
Yn hytrach, byddwn yn ystyried fod newid trwy ddatblygu yn un o’r
prosesau sy’n rhan o esblygiad tirwedd. Y cwestiwn wedyn yw a
fyddai’r datblygiad yn newid y dirwedd mewn ffordd annerbyniol?
ERTHYGLAU PERTHNASOL...
Gweler hefyd...
Mae'r dogfennau yma yn uniaith Saesneg gyda crynodeb
Cymraeg:
Canllawiau ar
amddiffynfeydd arfordirol o ran eu heffeithiau ar y dirwedd a’u
heffeithiau gweledol
Mae un o’r newidiadau mwyaf o ran pryd a gwedd yr arfordir yn
deillio o’r amddiffynfeydd arfordirol sy’n cael eu hadeiladu. Yn y
ddogfen hon ceir esboniad o’r dull asesu tirwedd ac effeithiau
gweledol sy’n addas ar gyfer amddiffynfeydd arfordirol, a gosodir
cysyniadau cynllunio syml a ddylai gael eu hystyried wrth asesu a
chynllunio amddiffynfeydd newydd.
Gwybodaeth
LANDMAP: Canllaw 3
LANDMAP - Asesu’r Effeithiau ar y Dirwedd a’r Effeithiau
Gweledol
Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut mae system
wybodaeth tirwedd LANDMAP Cymru yn medru cael ei ddefnyddio yn y
broses asesu effaith gweledol a thirwedd.
Gwefannau eraill...
Mae'r safle yma yn uniaith Saesneg:
Asesu’r Effeithiau ar
y Forwedd a’r Effeithiau Gweledol
Cyhoeddiad gan Yr Adran Masnach a Diwydiant (2005) er mwyn rhoi
CANLLAWIAU I DDATBLYGWYR FFERMYDD GWYNT AR Y MÔR YNGHYLCH SUT I
ASESU’R EFFEITHIAU AR Y FORWEDD A’R EFFEITHIAU GWELEDOL yn eu
hasesiadau o’r effaith amgylchedd ar gyfer cynigion unigol. Mae’r
canllawiau hefyd yn berthnasol i’r rhai sy’n pennu cwmpas asesiadau
o’r fath a’r rhai sy’n cyflwyno sylwadau arnynt.