Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Tirwedd sy’n newid

Mae tirweddau’n newid. Edrychwch ar hen ffotograffau o lefydd cyfarwydd a gallwch weld sut y maen nhw wedi newid. Yn y dyfodol, fe fyddan nhw’n newid eto.

Mae gan dirweddau rai nodweddion sy’n newid yn arafach nag eraill. Er enghraifft, bydd waliau cerrig yn aros yr un peth er y bydd y cnydau yn y cae yn newid.

Pam fod angen monitro newid

Trwy gofnodi’r hyn sy’n newid yn ein tirwedd a deall pam fod newid yn digwydd, gallwn ddarogan sut y bydd llefydd yn edrych yn y dyfodol. Gallwn weld a oes modd gwneud y dyfodol yn well trwy weithio gyda’r newid yn yr hinsawdd heddiw.

Sut y byddwn yn monitro newid

Mae tirweddau’n newid oherwydd cymysgedd gymhleth o brosesau naturiol (twf coed a phlanhigion, er enghraifft) ac effaith pobl (er enghraifft trwy godi rhagor o dai). Allwn ni ddim monitro popeth, felly byddwn yn edrych ar nodweddion allweddol y gallwn ni eu mesur. Mae’r rhain yn dangos sut y mae tirwedd yn newid a byddwn yn gweithio gyda nhw i gynllunio at y dyfodol.

Ein gwaith ni

Gall y Cyngor Cefn Gwlad weithio mewn sawl ffordd i ddylanwadu ar newid tirwedd, er enghraifft trwy grantiau uniongyrchol, cyngor, cyfrannu at gynlluniau rheoli tirwedd (fel mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) a thrwy roi sylwadau ar ddrafftiau o gynlluniau datblygu a cheisiadau cynllunio o bwys.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirwedd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen