Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Morweddau

Yn y Gymraeg, mae dau air am “seascape”. Morluniau yw’r hyn yr ydym yn eu gweld – cysyniad sy’n gyfarwydd i arlunwyr yn barod. Yna mae Morweddau – cysyniad newydd ynglŷn a sut mae’r tir a’r môr yn effeithio ar ei gilydd. Rydym eisoes yn gyfarwydd â’r ddau derm, tirlun a thirwedd.

Roedd Turner ac arlunwyr eraill yn defnyddio’r term morlun i ddisgrifio golygfeydd lle roedd pobl yn cyfarfod â’r môr, yn aml mewn ardaloedd ger y glannau ble mae cymeriad y tir yn cael dylanwad cryf ar y môr.

Beth yw morwedd ?

Golygfeydd pwysig yng Nghymru – yn denu pobl i’r glannau ar eu gwyliau neu i ymddeol. Yn aml dyma rai o’r tirweddau “gwyllt” ola’ ac maen nhw’n gyfoethog o ran treftadaeth naturiol.

Asesu morwedd

Mae’r CCG a phartneriaid yn Iwerddon  wedi datblygu ffordd o ddiffinio morweddau yn ôl eu cymeriad.

Y bwriad yw nodi pa ardaloedd a nodweddion sy’n bwysig i’w diogelu mewn cyfnod pan fo’r glannau dan bwysau yn sgil datblygiadau newydd.  

Cafodd y dull newydd ei gyhoeddi yn yr ‘Guide to best practice in seascape assessment’ yn 2001 ac mae canllawiau eraill wedi datblygu o hwn.

Sut mae asesiadau morweddol yn gweithio

Y prif gamau yw:

  • Defnyddio prif benrhynau i rannu’r arfordir
  • Defnyddio cyfrifiaduron i nodi ardaloedd morol ac ardaloedd ar y tir sy’n gallu cael eu gweld, y naill o’r llall.
  • Diffinio mathau o dirwedd arfordirol (drwy gyfeirio at astudiaethau eraill fel LANDMAP);
  • Disgrifio cymeriad a nodweddion pob morwedd.
  • Ystyried y ffactorau sy’n creu newid ym mhob ardal.

Sut mae asesiadau morweddol yn cael eu defnyddio?

Yn yr Alban, maen nhw’n cael eu defnyddio i helpu symud cynlluniau melinau gwynt ar y môr i ffwrdd o ardaloedd sensitif. Yng Nghymru, rydym yn gwneud astudiaeth debyg. Mae canllawiau wedi eu creu ar gyfer Lloegr a Chymru ynglŷn â’r ffordd i asesu effeithiau gweledol a morweddol datblygiadau ynni gwynt.

 

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirwedd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen