Safleoedd a Thirweddau Arbennig Cymru
Cafodd tua 30% o dir a dyfroedd Cymru ei
ddewis yn dirweddau a safleoedd arbennig – naill ai oherwydd eu
bywyd gwyllt, harddwch eu golygfeydd neu eu gwerth daearegol.
Mae rhai yn safleoedd lle mae cadwraeth yn
fater o gyfraith, ac eraill – sy’n aml yn cyd-daro â’r safleoedd
cyfreithiol – wedi cael eu dewis i’w rheoli’n sensitif, oherwydd eu
bod yn safleoedd naturiol gwych.
Tirweddau wedi’u gwarchod
Tirweddau arbennig – dan gyfraith y DU
Parciau Cenedlaethol –
Ardaloedd eang sy’n cael eu dynodi trwy gyfraith i warchod ansawdd
nodedig eu tirwedd ac i hybu gweithgareddau awyr iach. Mae gan
Barciau Cenedlaethol eu Hawdurdodau eu hunain, sy’n rheoli
cynllunio. Tri sydd yng Nghymru.
Ardaloedd o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) – Ardaloedd wedi eu gwarchod trwy
gyfraith oherwydd nodweddion arbennig eu tirwedd, bywyd gwyllt,
daeareg a daearyddiaeth. Maen nhw’n cael eu gwarchod fwy nag
ardaloedd eraill o fewn y broses gynllunio ac, o ran tirwedd a
golygfeydd, maen nhw’n gyfwerth â Pharciau Cenedlaethol. Mae gan
Gymru bump AHNE.
Tirweddau arbennig eraill
Arfordir Treftadaeth – Darnau
o arfordir nodedig a dilychwin, fel arfer dan ofal awdurdodau
lleol. Mae’r 14 darn yn cynnwys bron hanner holl arfordir
Cymru.
Tirweddau hanesyddol – Yn
aml, gall tirweddau ddangos sut y mae ardaloedd a chymunedau wedi
datblygu tros y canrifoedd. Mae’r enghreifftiau gorau sydd wedi
goroesi wedi eu nodi a’u cynnwys ar gofrestr. Does dim gwarchodaeth
arbennig ar y rhain ond bwriad y gofrestr yw tynnu sylw at werth y
tirweddau yma pan fydd ceisiadau cynllunio a datblygiadau’n cael eu
hystyried.
Safleoedd wedi’u gwarchod
Safleoedd arbennig – trwy gyfraith y DU
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig (SoDdGAu) – Dyma gonglfeini’r gwaith o warchod
bywyd gwyllt a chynefinoedd yng Nghymru, a hynny trwy gyfraith. Mae
mwy na 1,000 ohonyn nhw.
Gwarchodfeydd Natur Morol –
Is-ddeddfau arbennig sy’n gwarchod unig Warchodfa Natur Forol
Cymru. Mae’r rhain yn gwarchod cynefinoedd morol pwysig, bywyd y
môr a nodweddion arbennig ar y glannau a gwely’r môr.
Safleoedd Natura 2000 – trwy
Orchmynion y Comisiwn Ewropeaidd
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
(ACA) – Rhwydwaith o safleoedd ar draws yr Undeb
Ewropeaidd sydd wedi eu gwarchod yn ddwys ac a fydd yn gwneud
cyfraniad pwysig at warchod rhai o’r 189 math o gynefin a’r 788
rhywogaeth sydd wedi eu dewis i’w gwarchod. Gall ACAu fod ar y tir,
ar y glannau neu allan yn y môr. Mae 89 ACA neu ddarpar ACA yng
Nghymru.
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
(AGA) – Safleoedd sydd wedi eu gwarchod yn ddwys i geisio
diogelu adar prin, bregus ac ymfudol, yn unol â Gorchymyn Adar y
Comisiwn Ewropeaidd. Mae gan Gymru 16 AGA a’r rheiny i gyd yn
SoDdGAu ac wedi eu gwarchod felly.
Safleoedd arbennig – trwy gytundebau rhyngwladol
Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd
Rhyngwladol – Yr enw ar y rhain yw Safleoedd Ramsar,
oherwydd y dref yn Iran lle y cafwyd cytundeb rhyngwladol i warchod
gwlyptiroedd pwysig a bregus, a’r rheiny’n amrywio o gorsydd a
mawnogydd i ddŵr agored. Mae pob un o’r 10 Safle Ramsar yng Nghymru
yn SoDdGA ac yn cynnwys planhigion ac anifeiliaid prin. Mae rhai’n
arbennig o bwysig am adar y dŵr.
Gwarchodfeydd Biosffer – Mae
gan Gymru un o’r gwarchodfeydd rhyngwladol hyn sydd wedi’u creu er
mwyn astudio sut y bydd gweithgareddau dyn yn effeithio ar yr
amgylchedd lleol. Mae’n rhan o gadwyn fyd‑eang o dan adain
UNESCO.
Gwarchodfeydd Biogenetig –
Rhwydwaith Ewropeaidd o warchodfeydd i ofalu am blanhigion,
anifeiliaid a llefydd naturiol a all fod yn gyffredin mewn un wlad
ond sy’n brin mewn gwledydd eraill. Eu nod yw gwarchod cronfa o
ddeunydd genetig o’r fath ar gyfer y dyfodol. Rhaid i safleoedd fod
wedi eu dynodi yn SoDdGA neu debyg. Mae gan Gymru un o’r rhain.
Safleoedd arbennig eraill
Gwarchodfeydd Natur
Cenedlaethol – Yr enghreifftiau cenedlaethol gorau o
gynefinoedd, daeareg a bywyd gwyllt, neu gyfuniad o’r rhain. Maen
nhw yn eiddo i’r Cyngor Cefn Gwlad neu’n cael ei lesio ganddo, neu
yn eiddo i gyrff cadwraeth eraill. Mae’n bosib ymweld ag amryw o’r
66 sydd yng Nghymru.
Gwarchodfeydd Natur Lleol –
Awdurdodau lleol sy’n sefydlu’r rhain, gyda nodweddion sy’n bwysig
yn lleol. Maen nhw’n cyfuno cadwraeth gyda chyfleoedd i fwynhau byd
natur. Mae 53 yng Nghymru.