Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Safleoedd wedi eu dynodi – Ewropeaidd a rhyngwladol

Mae rhai safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol yn cael eu gwarchod trwy ddeddfau’r Undeb Ewropeaidd a chafodd eraill statws arbennig trwy gytundebau a chyrff rhyngwladol.

Safleoedd wedi eu gwarchod – yr Undeb Ewropeaidd

Mae’r 25 gwladwriaeth sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd yn cynnwys miloedd o wahanol fathau o gynefinoedd, 150 rhywogaeth o famal, 520 rhywogaeth o adar, 180 rhywogaeth o ymlusgiaid ac amffibiaid, 150 rhywogaeth o bysgod, 10,000 o rywogaethau o blanhigion ac o leiaf 100,000 rhywogaeth o greaduriaid di-asgwrn-cefn.

Ar draws Ewrop, mae tua hanner y mamaliaid brodorol, y gloÿnnod, ymlusgiaid a physgod dŵr croyw dan fygythiad, ynghyd â 30% o amffibiaid a 15% o adar.

Mae cadwraeth, trwy warchod safleoedd a rhywogaethau, wedi ei seilio ar ddau o Orchmynion yr Undeb Ewropeaidd:

  • Roedd Gorchymyn Adar 1979 wedi nodi 193 rhywogaeth o adar sydd mewn peryg ac wedi gorchymyn yr Aelodau i greu Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA).
  • Mae Cyfarwyddeb Cynefinoedd 1992 yn anelu at warchod cynefinoedd a rhywogaethau eraill o fywyd gwyllt ac mae’n gofyn i bob Aelod-wladwriaeth bennu safleoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd a chreu cynlluniau rheoli arbennig i’w gwarchod, gan gyfuno cadwraeth hirdymor â gweithgareddau economaidd a chymdeithasol ar y safleoedd hyn i’w dynodi fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).

Gyda’i gilydd, caiff y ddau fath yma o safleoedd dan warchodaeth eu galw’n safleoedd Natura 2000.

Safleoedd rhyngwladol eraill

Mae safleoedd rhyngwladol eraill wedi’u dynodi gan gorff y Cenhedloedd Unedig UNESCO a Chyngor Ewrop, sy’n cynnwys 48 o wledydd.

Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirwedd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen