Arfordiroedd Treftadaeth – glannau
dilychwin Cymru
Mae bron hanner glannau môr Cymru wedi eu
dynodi’n Arfordir Treftadaeth. Mae hynny’n cynnwys 14 darn gwahanol
o lan y môr, gydag 11 o’r rheiny oddi mewn i Barciau Cenedlaethol
neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Beth yw Arfordiroedd Treftadaeth?
Darnau o arfordir yng Nghymru a Lloegr sydd o safon eithriadol a
heb eu difetha ac sydd wedi eu dethol trwy gytundeb gydag
awdurdodau lleol. Erbyn 1992, roedd 45 o ddarnau o arfordir wedi eu
dewis yn y ddwy wlad.
Sut maen nhw’n cael eu gwarchod?
Ynddyn nhw eu hunain, dyw Arfordiroedd Treftadaeth ddim wedi eu
gwarchod trwy’r gyfraith ond, os ydyn nhw y tu mewn i dirweddau
sydd wedi eu gwarchod, fel Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o
Harddwch Naturiol Eithriadol, maen nhw’n cael eu trin fel rhan o’r
rheiny. Y tu allan i’r ardaloedd hynny maen nhw’n cael triniaeth
arbennig, er enghraifft mewn ceisiadau cynllunio.
Ble maen nhw?
- Mae chwech o Arfordiroedd Treftadaeth Cymru yn Sir Benfro.
- Mae tri yn Ynys Môn.
- Mae yna Arfordiroedd Treftadaeth hefyd ym Mro Morgannwg, ar
benrhyn Gŵyr a Phen Llŷn, ar Ben y Gogarth ger Llandudno ac yng
Ngheredigion.