Gwarchodfeydd Natur Lleol
Mae llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru –
mewn ardaloedd trefol yn ogystal ag yng nghefn gwlad – wedi sefydlu
Gwarchodfeydd Natur Lleol. Mae cyfanswm o 62 trwy’r wlad, gyda
nodweddion naturiol sydd o ddiddordeb arbennig i’r ardaloedd
hynny.
Beth yw Gwarchodfeydd Natur Lleol?
Gall y safleoedd hyn gynnwys hen chwareli,
camlesi segur neu hen lwybrau rheilffordd yn ogystal â choedydd,
gwlyptiroedd, gweundiroedd a glan môr. Maen nhw’n cynnig cyfle
ardderchog am addysg a chadwraeth ac i bobl fwynhau a gwerthfawrogi
byd natur.
Maen nhw’n helpu i warchod cynefinoedd a
rhywogaethau ac yn creu dolenni rhwng awdurdodau lleol, cyrff
gwarchod natur a’r gymuned, gan godi ymwybyddiaeth pobl o fywyd
gwyllt eu hardal a chynnig lle delfrydol i blant ddysgu am fyd
natur.
Beth yw’r meini prawf?
- Yn ôl y gyfraith, dim ond awdurdod lleol a all sefydlu
Gwarchodfa Natur Leol.
- Rhaid i’r safle fod o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
- Rhaid i’r awdurdod fod naill ai â budd cyfreithiol yn y tir neu
fod wedi cytuno gyda’r perchennog y dylai’r tir fod yn
warchodfa.