Mae safle Carn Gafallt o ddiddordeb arbennig
oherwydd ei rostir sych yr ucheldir a’i goetir collddail. Mae’r
coetir yn cynnal amrywiaeth eithriadol o fwsoglau, llysiau’r afu a
chennau (gan gynnwys llawer a welir yn anfynych yn genedlaethol).
Mae hefyd yn bwysig oherwydd yr adar coetir sy’n nythu yno, ac
amrywiaeth rhagorol o bryfaid a molysgiaid sy’n cynnwys nifer o
rywogaethau prin ac anfynych sy’n gysylltiedig â phren marw.
Rheoli’r safle hwn
Mae rhan sylweddol y safle yn dir comin cofrestrig yn eiddo i’r
RSPB. Mae gweddill y safle yn eiddo preifat. Cafodd nodweddion
arbennig y SoDdGA hwn a barn y Cyngor Cefn Gwlad ynglÿn â rheoli’r
safle eu crynhoi mewn Datganiad Rheoli Safle, wedi’i gyfeirio at
berchnogion a rheolwyr y tir. Gellir gweld y datganiad yn yr adran
adnoddau isod.
Gwybodaeth am fynediad
Mae rhan fwyaf o’r safle yn dir mynediad agored gyda’r gweddill
yn cael ei groesi gan lwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffyl. I gael
mapiau manwl a gwybodaeth am fynediad, ewch at y map mynediad
drwy’r adran adnoddau isod.
Gwybodaeth arall
Mae’r safle yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Coetiroedd Cwm
Elan/ Elan Valley ac Ardal Gwarchodaethn Arbennig Elenydd-Mallaen.
Yn ei Historia Brittonum (Hanes y Brythoniaid) mae’r hanesydd o’r
9fed ganrif, Nennius, yn disgrifio ‘rhyfeddod’ ym Muellt, sef
pentwr o gerrig lle ceir un garreg sy’n dangos ôl troed Cafall, ci
Arthur. Argraffwyd yr ôl troed ar y garreg wrth i’r ci hela’r Twrch
Trwyth yn y parthau hyn - hanes a ddisgrifir yn y chwedl
ganoloesol, Culhwch ac Olwen. Aiff Nennius yn ei flaen i nodi y
byddai pobl yn dod heibio ac yn cario’r garreg a argraffwyd i
ffwrdd yn eu dwylo, gan barhau ar eu siwrnai am noson a diwrnod,
ond y byddai’r garreg i’w gweld yn ôl yn ei phriod le erbyn bore
trannoeth. Cafodd y pentwr o gerrig ei alw’n Garn Cafall, ac yn ôl
traddodiad, Arthur ei hun a gododd y pentwr gan osod y garreg a
oedd yn dangos ôl troed ei gi ar ei ben.