Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Berwyn yn
cynnwys ehangder o bron 8,000 hectar o rostir uchel – bron draean
o’r 24,000 hectar o wychder y Berwyn i gyd.
Mae’r Warchodfa oddi mewn i SoDdGA ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig y
Berwyn, yn ogystal ag Ardal Cadwraeth Arbennig Berwyn a De
Clwyd.
Bywyd gwyllt
Llun ⓗCCGC
SoDdGA y Berwyn yw’r ardal fwyaf o rostir grug yng Nghymru ac
mae’n ymestyn o Langollen yn y gogledd i Langollen yn y de.
Mae’r ardal yn enwog oherwydd ei chynefinoedd rhostir grug tir
uchel, sy’n cynnwys mannau nythu i adar y tir uchel ac adar
ysglyfaethus – yn ogystal â llawer o blanhigion anghyffredin a
phrin.
Mae gan y SoDdGA unarddeg o nodweddion arbennig, sy’n
cynnwys:
Gorgors
Yn y mawn dwf, mae gorgorsydd i’w cael ar gribau a llwyfandiroedd y
Berwyn. Mae’r corsydd yn nodedig am blanhigion sy’n dibynnu ar
bridd sy’n barhaol wlyb.
Llun ⓗCCGC
Mae’r rhain yn cynnwys sawl math o fwsogl sy’n creu mawn –
migwyn – tra bod grug a phlu’r gweunydd yma hefyd – yn gymysg â
rhywogaethau megis chwys yr haul, llafn y bladur a’r enwocaf o’r
cyfan, llwyn mwyar y Berwyn.
Mae dwy rywogaeth brin arall – andromeda’r gors a’r hesgen
eurwerdd lefn – hefyd i’w cael yma.
Cafodd y mawn sydd o dan lystyfiant arwynebol y mynyddoedd ei
ffurfio tros filoedd o flynyddoedd ac mae’n cynnwys o’i fewn
weddillion planhigion ac anifeiliaid sy’n gofnod unigryw a manwl o
newid amgylcheddol yn yr ardal.
Mae’r gwaddol yma yn werthfawr iawn i ymchwilwyr ac yn gallu
dweud llawer wrthon ni am esblygiad Cymru ers diwedd Oes yr Iâ.
Maen nhw hefyd yn cynnig gwybodaeth am dueddiadau’r hinsawdd yn y
gorffennol.
Mae cadw’r mawn yn bwysig iawn, gan ei fod yn gronfa sylweddol o
garbon naturiol. Os bydd yn dirywio trwy sychu, bydd y storfa hon o
garbon caeth yn cael ei ollwng i’r amgylchedd, gan gyfrannu’n
sylweddol at gynhesu byd-eang.
Rhostir sych
Mae’r llecynnau o rostir sych i’w gweld fel arfer ar lethrau mwy
serth a sychach y Berwyn. Cymysgedd o lus a grug yw’r prif
blanhigion.
Mae’r cymunedau naturiol hyn yn cael eu creu a’u cynnal trwy
reoli gofalus, sy’n cynnwys pori, llosgi ac, yn y degawdau
diweddar, torri.
Adar Nythu’r Ucheldir
Mae rhostiroedd a glaswelltiroedd y mynyddoedd yn gartref i
amrywiaeth eang o adar yr ucheldir. Y Berwyn yw un o gadarnleoedd
olaf y rhywogaethau hyn yng Nghymru.
Mewn ardaloedd eraill, mae’r adar hyn wedi diflannu wrth i’w
cynefinoedd rhostir gael eu dinistrio gan welliannau amaethyddol a
phlannu coed bythwyrdd.
Ymhlith y rhywogaethau mwyaf nodedig, mae:
- Cudyll bach
- Boda tinwen
- Hebogiaid tramor
- Y barcud
Mae’r adar hyn yn bwysig iawn, yn genedlaethol a
rhyng-genedlaethol, gan eu bod yn cynnwys cyfran uchel o holl
boblogaethau’r adar hyn yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.
Ymhlith adar nodweddiadol eraill yr ucheldir sy’n nythu ar y
Berwyn, mae:
Llun ⓗCCGC
- Grugieir coch
- Grugieir du
- Cwtiad aur
- Gïach, pibydd y mawn
- Cylfinir
- Tylluan glustiog
- Crec yr eithin
- Clochdar y cerrig
- Tinwen y garn
- Mwylachen y mynydd
- Cigfran
Mae llawer o’r rhywogaethau naill ai yn byw ar y mynyddoedd
trwy’r flwyddyn neu’n mudo yno i nythu a magu eu cywion yn y grug.
Mae eraill yn nythu mewn mannau eraill ond yn dibynnu ar y
rhostiroedd am hela a bwyd.
Mae’r Berwyn hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd pwysig
eraill:
Clogwyni, sgri a chwareli sydd oll yn gartref i gymunedau o adar
nythu, megis mwyeilch y mynydd, cigfrain a hebogiaid tramor, yn
ogystal â phlanhigion prin megis briweg Gymreig.
Mae coetiroedd a’u hymylon yn gynefinoedd pwysig ar gyfer adar
megis grugieir du ac mae un o’r ychydig boblogaethau o’r gwyfyn
prin, y gliradain Gymreig, yn goroesi mewn rhai mannau cyfyng iawn
ym Meirionnydd a rhannau deheuol y Berwyn. Mae’r gwyfyn yn
treulio’i gyfnod cynnar yn lindysyn y tu mewn i goed bedw mawr
llawn-dwf.
Yn ogystal â’r nodweddion hyn, mae gan y Berwyn rychwant o
gynefinoedd eraill sy’n gartref i amrywiaeth cyfoethog o fywyd
gwyllt.
Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd eang o laswelltir heb ei drin,
llynnoedd, nentydd, rhedyn a phrysgwydd. Mae’r gymysgedd hon o
gynefinoedd, ynghyd â gorgors a rhostir, yn rhan allweddol o
ecosystem yr ucheldir.
ERTHYGLAU PERTHNASOL
GWELER HEFYD...
Mapiau Mynediad i Gefn Gwlad
I gael map mwy manwl o’r ardal yn dangos gwybodaeth am fynediad,
gan gynnwys: llwybrau wedi’u hyrwyddo, llwybrau cenedlaethol a thir
mynediad CGHT (CROW).
Map o Ardaloedd Gwarchodedig
I gael map mwy manwl o’r ardal a’r Warchodfa Natur Genedlaethol, yn
ogystal â safleoedd arbennig ychwanegol, gan gynnwys: Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd tirwedd fel Parciau
Cenedlaethol.
GWEFANNAU ERAILL...
Traveline
Cymru
Croeso i Traveline Cymru, eich siop un-cam ar gyfer
amserlenni a chynlluniau teithio ar draws Cymru, ar fws, coets a
thrên.
PRSPB
Llyn Efyrnwy
Mae RSPB Cymru yn rheoli
Gwarchodfa’r RSPB/STW