Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Gwarchodfeydd Natur Lleol

Mae llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru – mewn ardaloedd trefol yn ogystal ag yng nghefn gwlad – wedi sefydlu Gwarchodfeydd Natur Lleol. Mae cyfanswm o 62 trwy’r wlad, gyda nodweddion naturiol sydd o ddiddordeb arbennig i’r ardaloedd hynny.

Beth yw Gwarchodfeydd Natur Lleol?

Gall y safleoedd hyn gynnwys hen chwareli, camlesi segur neu hen lwybrau rheilffordd yn ogystal â choedydd, gwlyptiroedd, gweundiroedd a glan môr. Maen nhw’n cynnig cyfle ardderchog am addysg a chadwraeth ac i bobl fwynhau a gwerthfawrogi byd natur.

Maen nhw’n helpu i warchod cynefinoedd a rhywogaethau ac yn creu dolenni rhwng awdurdodau lleol, cyrff gwarchod natur a’r gymuned, gan godi ymwybyddiaeth pobl o fywyd gwyllt eu hardal a chynnig lle delfrydol i blant ddysgu am fyd natur.

 

Beth yw’r meini prawf?

  • Yn ôl y gyfraith, dim ond awdurdod lleol a all sefydlu Gwarchodfa Natur Leol.
  • Rhaid i’r safle fod o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
  • Rhaid i’r awdurdod fod naill ai â budd cyfreithiol yn y tir neu fod wedi cytuno gyda’r perchennog y dylai’r tir fod yn warchodfa.
Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirwedd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen