Rhimyn main o dir coediog yw’r warchodfa hon,
yn dilyn llethrau serth ceunant afon Eiddon ym Meirionnydd. Mae’r
awyrgylch yn y coed derw yn hynod o laith ac mae llawer math prin o
fwsogl a llysiau’r afu yn ffynnu yma, tra bod coed mwy yn gartref i
amrywiaeth o gen prin.
Mae’r warchodfa’n rhan o SoDdGA Craig y Benglog.
Bywyd gwyllt
Mae’r warchodfa’n cynnal amrywiaeth o blanhigion blodeuog,
fel:
- Cor-rosyn cyffredin
- corfiaren
- a mapgoll glan y dŵr,
yn ogystal â rhywogaethau mwy cyffredin ar lawr y goedwig.
Y tu mewn i geunant Afon Eiddon derw yw’r rhan fwyaf o’r coed,
yn nodweddiadol o’r coetiroedd derw digoes gorllewinol sydd i’w
cael ar bridd asidig, a hynny i raddau helaeth yn ganlyniad i
lefelau uchel y glaw ym Meirionnydd.
Oddi mewn i’r ceunant hefyd mae clytiau bychain o goetiroedd
gwlypach o wern ac ynn, gyda haen drwchus o lwyni cyll a hesg ac
erwain yn gorchuddio’r ddaear.
Mae rhedyn yn ffynnu yn yr awyrgylch cynnes a llaith yma, gydag
amrywiaeth cyfoethog yn tyfu yn y ceunant, gan gynnwys tafod yr
hydd a gwrychredynen galed.
Llun gan Paul Williams, ⓗCCGC
Mae mwsogl a llysiau’r afu hefyd yn hoff o’r amodau hyn, a
chofnodwyd 199 rhywogaeth ohonyn nhw yng Nghraig y Benglog, a’r
rheiny’n gorchuddio cerrig mawr, creigiau, boncyffion coed, pren
pwdr a llawer o lawr y goedwig.
Tra bod rhai’n gyffredin iawn, mae yna nifer o fathau prin sy’n
aml yn doreithiog yma yn rhannau tywyll a serth y ceunant. Yma, mae
lefel y lleithder yn uwch fyth oherwydd yr ewyn sy’n dod o’r
rhaeadrau tra bod y gorchudd coed yn helpu i gynnal amgylchfyd
unigryw ar gyfer y rhywogaethau hyn.
Mae’r mwsogl, Dichodontium flavescens, sy’n brin ar raddfa
genedlaethol i’w gael yma ar bridd a graean ar ymyl y dŵr ac mae
hefyd ddeg o rywogaethau eraill sy’n brin yn genedlaethol,
megis:
- Radula voluta, sy’n tyfu ar feini gwlyb
- Bartramia halleriana
- Plagiothecium laetum, ar y pridd ar lawr y
goedwig
- Hedwigia integrifolia, ar greigiau uwchlaw Allt y
Benglog. Dyma ffin ddwyreiniol bellaf y rhywogaeth hon yng
Nghymru.
Ar un goeden ger y Warchodfa Natur Genedlaethol y mae’r unig
safle hysbys ar gyfer y cen Biatoridium monasteriensis.
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn ceisio cyflwyno rhagor o goed addas i’r
warchodfa er mwyn ei annog i ledaenu.
ERTHYGLAU PERTHNASOL
GWELER HEFYD...
Mapiau Mynediad i Gefn Gwlad
I gael map mwy manwl o’r ardal yn dangos gwybodaeth am fynediad,
gan gynnwys: llwybrau wedi’u hyrwyddo, llwybrau cenedlaethol a thir
mynediad CGHT (CROW).
Map o Ardaloedd Gwarchodedig
I gael map mwy manwl o’r ardal a’r Warchodfa Natur Genedlaethol, yn
ogystal â safleoedd arbennig ychwanegol, gan gynnwys: Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd tirwedd fel Parciau
Cenedlaethol.
GWEFANNAU ERAILL...
Traveline
Cymru
Croeso i Traveline Cymru, eich siop un-cam ar gyfer
amserlenni a chynlluniau teithio ar draws Cymru, ar fws, coets a
thrên.
Neu ffoniwch 0871 2002233.