Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Coedydd Maentwrog

Coedydd Maentwrog yw un o nifer o warchodfeydd coetir yn Nyffryn Maentwrog sydd wedi’u lleoli rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog. Mae Coedydd Maentwrog yn ardal ddeniadol, eang o goed ar ochr ogleddol y dyffryn. Mae dwy ardal bendant o goetir yn y warchodfa: Coed Llyn Mair a darn sy’n cynnwys tair coedlan nesaf at ei gilydd – Coed Tŷ Coch, Coed Bronturnor a Choed Glanrafon.

Mae’r rhain yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Coedydd Dyffryn Ffestiniog Gogleddol.

Cyfeirnod Grid: SH668415   Maint: 68.32 hectarau

yn ôl i’r map              

Ymweld

Mae llwybr natur yn mynd am tua 400 metr trwy Goed Llyn Mair, gyferbyn â’r llyn, gan godi’n eithaf serth hyd gyfres o risiau at orsaf Tan y Bwlch. Mae’r llwybr yn gallu bod yn eithaf cul ar adegau. Mae taflenni’r llwybr ar gael ar y safle.

O gerdded ychydig hyd y gwastad o faes parcio’r orsaf byddwch yn dod at fyrddau picnic a man edrych.

Llun ⓗCCGC

 

Llun ⓗCCGC

 

 

 

 

 

 

Yn rhan ddeheuol fwy’r goedwig, mae rhwydwaith da o lwybrau cyhoeddus, gan gynnwys un sy’n mynd yn gyfochrog i Reilffordd Ffestiniog cyn belled â’r Dduallt. Mae ail lwybr cyfochrog ychydig islaw hwn.

Er bod mwyafrif y llwybrau yn y rhan yma o’r warchodfa yn glir a phoblogaidd, mae sawl rhan er hynny yn gul, yn serth a chreigiog, oherwydd natur y tir – gallan nhw hefyd fod yn llithrig adeg glaw.

Sut i gyrraedd

Mae’r coetir yn agos at Faentwrog ar ffordd yr A487. Mae llefydd parcio pwrpasol ar gyfer tua 12 car yng Nghoed Llyn Mair ar fin y B4410 i’r gogledd o’r A487, ac mae rhai llefydd hefyd ar gael yng ngorsaf drên bach Tan y Bwlch.

At hynny, mae llefydd parcio ar ochr y ffordd ac arhosfa fysiau ar yr 487 ger yr Oakeley Arms.

Cludiant Cyhoeddus
Mae gwasanaethau bws cyson o Borthmadog, Blaenau, Dolgellau a Harlech. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am amseroedd a gwasanaethau, cysylltwch â Traveline Cymru ar 0871 2002233.

Llun ⓗCCGC

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mae trên bach Ffestiniog rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog yn rhedeg o’r Pasg tan fis Tachwedd, gydag ambell wasanaeth arbennig adeg y Nadolig a gwyliau hanner tymor.

Cyfleusterau

Llun ⓗCCGC



Does dim cyfleusterau ar y safle ond mae toiledau hollol hygyrch yng ngorsaf Tan y Bwlch, lle mae caffi, man gwylio a safle picnic hefyd.

Mae safle picnic gwastad ar laswellt yr ochr draw i’r ffordd i faes parcio Coed Llyn Mair, diolch i Barc Cenedlaethol Eryri.

Pwy sy’n gofalu amdani?

Y Cyngor Cefn Gwlad sy’n rheoli’r warchodfa er bod y safle’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gallwch gysylltu â Thîm Gwarchodfeydd y Rhanbarth Gogleddol trwy linell ymholiadau’r Cyngor ar 0845 1306229 neu trwy e-bostio ymholiadau@ccw.gov.uk. Gallwch hefyd ysgrifennu aton ni yn y cyfeiriad sydd dan ‘Cysylltu â’r tîm’.

Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirwedd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen