Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Cors Caron

A hithau ychydig tros 2,000 o erwau, mae Cors Caron yn llenwi pen uchaf dyffryn Teifi rhwng Tregaron a Phontrhydfendigaid. Yn y rhan yma o Gymru, mae’n anodd osgoi’r warchodfa wych hon.
Mae gan y warchodfa dair gorgors – ardaloedd o fawn dwfn sydd wedi casglu tros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf – ac o amgylch y rhain mae cymysgedd gymhleth ac unigryw o gynefinoedd.
Mae’r rheiny’n cynnwys:
· Gwelyau brwyn · Glaswelltir gwlyb · Afonydd a nentydd · Pyllau · Coetir
Wrth gwrs, mae hyn yn golygu fod y warchodfa’n lle rhyfeddol o ran bywyd gwyllt.
Mae Cors Caron yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn wlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol (safle Ramsar).

Cyfeirnod Grid: SN690642  Maint: 839.74 hectarau

yn ôl i’r map             

Ymweld

Mae llwybr pren hollol hygyrch yn mynd am tua thair cilomedr a hanner tros ran de-ddwyreiniol y gors, ac mae man gwylio adar hygyrch ar y llwybr hwn.

Mae llefydd pasio a gorffwys ar gael.

 

 

 

 

Llun gan Mike Alexander,ⓗCCGC

 

Cyn bo hir, bydd modd cyrraedd y llwybr pren o faes parcio newydd a agorwyd ym mis Mehefin 2007.

O’r prif fynedfeydd i’r warchodfa, gallwch hefyd gyrraedd:

  • Llwybr gyda wyneb caled hyd-ddi

Mae hon yn mynd am tua chwe chilomedr o’r gogledd i’r de hyd ymyl y warchodfa. Ac yntau ar un adeg yn rheilffordd, mae’r llwybr bellach yn rhan o Lwybr Ystwyth, sy’n mynd yr holl ffordd i Aberystwyth. Mae seddi ar hyd y llwybr ac mae croeso i feicwyr a marchogion ceffylau ei ddefnyddio.

  • Tro glan yr afon

Mae’r tro hwn ychydig i’r gogledd o’r maes parcio presennol ac yn mynd am tua saith cilomedr hyd llwybr llydan, sych a gwastad. Gwyliwch rhag ychydig o lystyfiant ar y llwybr a ysbeidiol

Sut i gyrraedd

Mae’r warchodfa ychydig i’r gogledd o Dregaron, rhwng Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth. Mae’r brif fynedfa i’r warchodfa o’r maes parcio newydd ar y B4343.

Mae modd mynd i mewn hefyd o:

  • Y maes parcio yn yr arhosfa yn Nhŷ Coed ar y B4343
  • Iard yr Orsaf, Ystrad Meurig, ar y B4340
  • Y maes parcio i’r gogledd o fferm Maesllyn.



Cludiant
Mae gwasanaeth bws achlysurol yn mynd trwy Ystrad Meurig - y T21, o Dregaron i Aberystwyth. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Traveline Cymru ar 0871 2002233.

Gall beicwyr a cherddwyr ddefnyddio Llwybr Ystwyth, sydd bellach yn mynd hyd yr hen reilffordd o Aberystwyth i Gors Caron.

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau ardderchog o ran mynediad i’r warchodfa, gan gynnwys llwybr pren, mannau cuddio a gweld, llefydd parcio pwrpasol a seddi.

Mae toiledau hollol hygyrch hefyd yn y maes parcio newydd. Ychydig i’r de o’r maes parcio, mae llwybr pren yn arwain at fan gwylio adar newydd.

Mae ail fan gwylio adar, tua dwy gilomedr i’r gogledd o’r maes parcio, ar hyd yr hen reilffordd, Nodwch nad yw’n bosib i ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn gyrraedd hwnnw.




I’r gogledd o’r warchodfa, mae toiledau cyhoeddus, dwy dafarn, siop a swyddfa bost ym mhentref Pontrhydfendigaid, tra bod Tregaron i’r de yn berchen ar ragor o gyfleusterau.

 

Llun gan Mike Alexander,ⓗCCGC

Pwy sy’n gofalu amdani?

Y Cyngor Cefn Gwlad sy’n rheoli’r warchodfa. Gallwch gysylltu â Thîm Gwarchodfeydd y Rhanbarth Gorllewinol trwy linell ymholiadau’r Cyngor ar 0845 1306229 neu trwy e-bost at ymholiadau@ccw.gov.uk . Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn y cyfeiriad o dan ‘Cysylltu â’r tîm’.
Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirwedd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen