Cors Erddreiniog yw’r fwyaf o gorsydd calch
Môn. Mae’r warchodfa eang hon bum cilomedr i’r gorllewin o Fenllech
yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, gyda phentref bychan Capel Coch i’r
gorllewin a Brynteg i’r dwyrain.
Gan fod y math hwn o wlyptir yn brin a than fygythiad, ac oherwydd
yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt sydd yno, mae nifer o
ddynodiadau’n gwarchod y safle.
Mae’r warchodfa yn:
· Wlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol - (Safle RAMSAR Corsydd Môn a
Llŷn)
· Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - (SoDdGA Cors
Erddreiniog)
· Ardal Cadwraeth Arbennig - (ACA Corsydd Môn)
Mae amrywiaeth y tir yn golygu fod ardaloedd eang o welyau
brwyn, yn ogystal â rhostir, coetir a llynnoedd bychain.
Er bod y llwybrau trwy’r warchodfa ar y cyfan yn wastad, gall y
coetir fod yn serth. Mae gwartheg a merlod hefyd yn pori’r safle
felly gall y llwybrau fod yn lleidiog a gwlyb.
Llun gan Mike
McCabe,ⓗCCGC
Llun gan Mike
McCabe,ⓗCCGC
Mae llwybr pren newydd cwbl hygyrch
yn mynd o amgylch y gwelyau brwyn yn grwn am tua 1000 metr, gan
orffen mewn cuddfan wylio adar sy’n edrych tros lyn dŵr croyw.
Sut i gyrraedd
Mae’r brif fynedfa i’r warchodfa hyd ffordd drol gul iawn yng
Nghapel Coch, oddi ar lôn fechan rhwng Maenaddwyn a Thregaian, tuag
wyth cilomedr i’r gogledd o Langefni. Mae llefydd parcio cyfyngedig
ar ochr y ffordd yn y pentref. Mae gât yn nodi’r fynedfa i’r
warchodfa.
Cludiant Cyhoeddus
Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn yr ardal, gyda bysiau rhifau 50 a
51 yn mynd trwy bentref Brynteg.
Llun gan Mike
McCabe,ⓗCCGC
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Traveline Cymru ar
0871 2002233
Y Cyngor Cefn Gwlad sy’n rheoli’r warchodfa.
Gallwch gysylltu â Thîm Gwarchodfeydd y Rhanbarth Gogleddol trwy
linell ymholiadau’r Cyngor ar 0845 1306229 neu trwy e-bost yn
ymholiadau@ccw.gov.uk. Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn y cyfeiriad
sydd o dan‘Cysylltu â’r tîm’.
Bywyd gwyllt
Mae glaswelltir calchog a choed cyll ar fin y gors, y cyfan ar
frigiad o graig galch. Mae system ddraenio gyffredin yn cysylltu
tri phant corsiog ac mae’r ffynhonnau calchog sy’n tarddu o waelod
y graig yn cynnal amrywiaeth cyfoethog o blanhigion, megis:
- Corsfrwyn du
- Tegeirian-y-gors culddail
- Tegeirian y clêr
- Troed y golomen
Ar wahân i ambell safle arall ym Môn ac ar Benrhyn Llŷn, dyma’r
unig le yng ngwledydd Prydain lle mae’r fath gyfoeth o degeirianau
i’w gael.
Llun gan Mike
McCabe,ⓗCCGC
Mae gan y gors yn y dyffryn hefyd gasgliad gwych o rywogaethau
planhigion, gan gynnwys:
- Corsfrwyn llym
- Brwyn blaendwn
Mae gan y gors ei phoblogaeth ei hun o degeirianau, gan
gynnwys:
- Tegeirian-y-gors gogleddol
- Tegeirian y fign galchog
- Caldrist y gors
Mewn llecynnau bychan ar dir mwy asidig mae clytiau o figwyn a
grug croesddail. Mae’r grib rhwng y gors ganol a chors y gogledd
ddwyrain yn rhostir mwy asidig gyda digonedd o grwynllys y
gors.
ERTHYGLAU PERTHNASOL
GWELER HEFYD...
Mapiau Mynediad i Gefn Gwlad
I gael map mwy manwl o’r ardal yn dangos gwybodaeth am fynediad,
gan gynnwys: llwybrau wedi’u hyrwyddo, llwybrau cenedlaethol a thir
mynediad CGHT (CROW).
Map o Ardaloedd Gwarchodedig
I gael map mwy manwl o’r ardal a’r Warchodfa Natur Genedlaethol, yn
ogystal â safleoedd arbennig ychwanegol, gan gynnwys: Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd tirwedd fel Parciau
Cenedlaethol.
GWEFANNAU ERAILL...
Traveline
Cymru
Croeso i Traveline Cymru, eich siop un-cam ar gyfer
amserlenni a cynlluniau teithio, ar draws Cymru, ar bws, coets a
trên.