Ynys anghysbell yn y môr yw Gwales lle mae tua
32,000 o barau o wylogod yn nythu. Mae’n debyg mai dyma’r drydedd
boblogaeth fwyaf yn y byd o wylogod yr Iwerydd (ar ôl St Kilda a
Bass Rock), gyda 12% o’r holl boblogaeth yn gwario amser yma.
Mae’r warchodfa hefyd yn cael ei gwarchod fel Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig Gwales, Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir
Benfro ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig Ynys Gwales
Sut i gyrraedd
Ar y tir mawr
- Mae gwasanaeth bws cyson yn mynd rhwng Hwlffordd a Thyddewi a
bws gwennol yn mynd o Dyddewi i Borthstinian bob awr o fis Ebrill i
fis Medi.
- Y ganolfan agosaf yw Tyddewi. O ganol y ddinas (Sgwâr y Groes)
ewch ychydig i’r chwith i Goat Street. Yna, i’r dde’n gyflym i Pit
Street, wedyn i’r chwith i Feidr Treginnis a dilyn arwyddion am
Borth Clais (2.5 km), lle daw’r ffordd i ben. Mae llefydd parcio ar
gael yno.
- Yn Hwlffordd y mae’r orsaf drenau agosaf. Yna dilynwch yr A487
i Dyddewi (25.6 km).
llun gan Mike
bailey,ⓗCCGC

Ar gwch
Mae cwmnïau preifat yn rhedeg teithiau cwch i’r ynys rhwng misoedd
Mai a Gorffennaf er mwyn gweld y gwylogod yn nythu a magu eu
cywion. Does dim hawl glanio. Mae’r teithiau’n mynd o Borthstinian
(St Justinians), gyda’r swyddfa docynnau yn Nhyddewi.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth,
cysylltwch â Traveline Cymru ar 0871 2002233
Y Gymdeithas Warchod Adar – yr RSPB – sy’n berchen ar ac yn
rheoli’r warchodfa. Ffôn: 029 2035 3000.
Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Gwarchodfeydd (Rhanbarth y
Gorllewin) y Cyngor Cefn Gwlad trwy ein llinell ymholiadau, 0845
1306229, e-bost, ymholiadau@ccw.gov.uk neu ysgrifennwch aton ni
trwy’r adran ‘Cysylltu â’r tîm’ ar y wefan hon.
Bywyd gwyllt
Yn yr haf, pan fydd cwmnïau cychod yn mynd â theithiau at yr
ynys, y gwylogod yw’r brif atynfa.
Efallai hefyd y gwelwch chi balod ac eraill o adar y môr, yn
ogystal â mamaliaid môr, sy’n cynnwys morloi, llamhidyddion ac, o
bosibl, morfilod pigfain.
ERTHYGLAU PERTHNASOL
GWELER HEFYD...
Mapiau Mynediad i Gefn Gwlad
I gael map mwy manwl o’r ardal yn dangos gwybodaeth am fynediad,
gan gynnwys: llwybrau wedi’u hyrwyddo, llwybrau cenedlaethol a thir
mynediad CGHT (CROW).
Map o Ardaloedd Gwarchodedig
I gael map mwy manwl o’r ardal a’r Warchodfa Natur Genedlaethol, yn
ogystal â safleoedd arbennig ychwanegol, gan gynnwys: Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd tirwedd fel Parciau
Cenedlaethol.
GWEFANNAU ERAILL...
Traveline
Cymru
Croeso i Traveline Cymru, eich siop un-cam ar gyfer
amserlenni a cynlluniau teithio, ar draws Cymru, ar bws, coets a
trên.
Thousand Island
Expedition
Teithiau Cychod Bywyd Gwyllt