Gwarchodfa dawel, anghysbell yw Hafod
Garregog. Mae’n cynnwys ardal eang o goetir sy’n tyfu ar glogwyni
creigiog a llecynnau o ddaear wlyb ar y tir isel rhyngddyn
nhw.
Mae hefyd wedi ei dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Coedydd Dyffryn Nanmor.
Sut i gyrraedd
Mae’r warchodfa 6.5 km i’r gogledd o Borthmadog ar yr A4085
hanner ffordd rhwng Penrhyndeudraeth a Beddgelert.
Mae llefydd parcio anffurfiol ar ben draw’r ffordd darmac sy’n
gadael yr A4085 ger Pont Talyrni, tua 5.5km i’r de o Feddgelert.
Mae ychydig lefydd parcio hefyd ar fuarth fferm Hafod y Llyn Uchaf,
sydd ar ffordd fechan sy’n gadael yr A4085 ar drofa fawr tua dwy
filltir i’r de o Feddgelert.
Cludiant
Cyhoeddus
Mae bws yn mynd hyd yr A4085 o Benrhyndeudraeth i Feddgelert. Er
mwyn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Traveline Cymru ar 0871
2002233
Bydd gwasanaeth newydd trên bach
Rheilffordd Ucheldir Cymru o Gaernarfon (a Phorthmadog yn y pen
draw) yn agor cyn bo hir. Mae’r rheilffordd yn cael ei hadeiladu ar
hyn o bryd a bydd rhagor o wybodaeth wrth nesu at ei gorffen.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y warchodfa (a’r
tir ffermio cyfagos sy’n cynnwys afon Glaslyn) ac mae’n ei rheoli
gyda’r Cyngor Cefn Gwlad.
Gallwch gysylltu â Swyddfa Ranbarthol yr Ymddiriedolaeth ar
01492 860123. Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Gwarchodfeydd
(Rhanbarth y Gogledd) y Cyngor trwy ein llinell ymholiadau, 0845
1306229, e-bost ymholiadau@ccw.gov.uk neu ysgrifennu aton ni trwy’r
adran ‘Cysylltu â’r tîm’ ar y wefan hon.
Bywyd gwyllt
Llun ⓗCCGC
Mae amrywiaeth mawr o gynefinoedd yma o fewn ardal cymharol
fychan, a’r rheiny’n cynnal amrywiaeth eang o blanhigion ac
anifeiliaid.
Mae’r coetir yn enghraifft ardderchog o goedydd derw digoes yr
Iwerydd, sy’n nodweddiadol o’r rhan hon o Gymru. Mewn llefydd mae
bedw a chriafol yn gymysg â’r coed derw ac oddi tanyn nhw mae haen
denau o goed cyll a chelyn.
Ar y ddaear, mae planhigion blodeuog megis perwellt y gwanwyn,
peiswellt y defaid, gliniogai, clychau glas, rhedyn ac amrywiaeth o
fwsoglau, llysiau’r afu a chen y coed.
Mae yma hefyd lecynnau o gors asidaidd ac mae’r planhigion yn
cynnwys helyg Mair. Yn y rhannau llai asidaidd, mae yna fwsoglau,
gwlithlys, llafn y bladur a chorsfrwyn gwyn.
Llun gan Mike Bailey, ⓗCCGC
Mae’r warchodfa hefyd yn nodedig am amrywiaeth ei thrychfilod –
rhai yn arbennig o brin, megis glöyn byw y glesyn serennog a’r
fursen anghyffredin Ceriagron tenellum.
ERTHYGLAU PERTHNASOL
GWELER HEFYD...
Mapiau Mynediad i Gefn Gwlad
I gael map mwy manwl o’r ardal yn dangos gwybodaeth am fynediad,
gan gynnwys: llwybrau wedi’u hyrwyddo, llwybrau cenedlaethol a thir
mynediad CGHT (CROW).
Map
o Ardaloedd Gwarchodedig
I gael map mwy manwl o’r ardal a’r Warchodfa Natur Genedlaethol, yn
ogystal â safleoedd arbennig ychwanegol, gan gynnwys: Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd tirwedd fel Parciau
Cenedlaethol.
GWEFANNAU ERAILL...
Traveline
Cymru
Croeso i Traveline Cymru, eich siop un-cam ar gyfer
amserlenni a chynlluniau teithio ar draws Cymru, ar fws, coets a
thrên.