Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Ceir 71 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol
(GNG) yng Nghymru sy’n amrywio mewn maint o hanner hectar i bron i
8,000 hectar.
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol – beth ydyn nhw?
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yw’r
enghreifftiau gorau oll o gynefinoedd a safleoedd bywyd gwyllt,
sydd efallai hefyd yn cynnwys nodweddion daearegol diddorol. Maen
nhw’n amrywio o gopaon mynyddoedd, coedydd derw hynafol,
gwlyptiroedd, mawnogydd a thwyni tywod i ynysoedd anghysbell yn y
môr. Mae’r cyfan yn arbennig yn eu ffyrdd eu hunain – bydd gan rai
gasgliadau hynod o wahanol rywogaethau, eraill gynefinoedd prin a
bydd gan rai nodweddion naturiol trawiadol, fel ffurfiau anarferol
o greigiau neu ogofau.
Mae’r holl warchodfeydd hefyd yn Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a chânt eu defnyddio nhw ar gyfer
prosiectau addysgol, ymchwil ac arbrofion rheoli.
Sut maen nhw’n cael eu rheoli?
Ein nod yw fod y Gwarchodfeydd Cenedlaethol yn
gosod safon rheoli ar gyfer pob gwaith cadwraeth a mynediad. Mae’r
Cyngor Cefn Gwlad yn berchen ar rai ac yn lesio eraill.
Mewn rhai achosion, byddwn yn gweithio mewn
partneriaeth gyda thirfeddianwyr a pherchnogion, sy’n cytuno i
ddefnyddio a rheoli’r tir mewn ffordd sydd o fudd i fywyd gwyllt
a’u cynefinoedd.
Mae rhai gwarchodfeydd yn cael eu rheoli’n
llwyr gan gyrff eraill fel yr Ymddiriedolaethau Natur, y Gymdeithas
Warchod Adar neu gyngor lleol.
Mae gan pob un o warchodfeydd y Cyngor Cefn
Gwlad dîm rheoli pwrpasol gyda rhaglen o waith i reoli nodweddion
arbennig y safle. Mae gan rai gwarchodfeydd wardeniaid preswyl,
sy’n helpu gyda chadw ansawdd y safle, materion mynediad, delio
gyda thirfeddianwyr ac ymwelwyr a goruchwylio gwaith ymchwil.
Ymweld â’r Gwarchodfeydd Cenedlaethol
Mae croeso i ymwelwyr, ar yr amod fod
mynediad i’r safle’n ddiogel ac na fydd eu presenoldeb yn niweidio
cynefinoedd neu fywyd gwyllt neu’n amharu ar fuddiannau perchnogion
a thenantiaid. Bydd angen trwydded i ymweld â rhai o’r
gwarchodfeydd.