Safle anarferol yw Creigiau Stanner yn Sir
Faesyfed, lle mae llosgfeini neu greigiau igneaidd serth yn brigo
i’r wyneb. Mae amryw o’r planhigion sy’n tyfu yma yn brin iawn ar
raddfa Brydeinig ac yn fwy nodweddiadol o gyfandir Ewrop neu lannau
Ewropeaidd Môr y Canoldir.
Mae wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Creigiau Stanner oherwydd ei blanhigion.
Dyw’r warchodfa ddim yn gyffredinol ar agor i’r cyhoedd oherwydd
ei natur serth a’r planhigion prin bychain a bregus sydd yno. Dylid
trefnu mynediad trwy’r Cyngor Cefn Gwlad (gweler y manylion cyswllt
uchod).
Mae darn byr o lwybr cyhoeddus yn arwain at ran bychan o lawr y
chwarel sydd ar agor i ymwelwyr ar eu pen eu hunain. Dylech osgoi
sathru ar y pridd tenau a’r graig foel, gan ei bod yn hawdd methu â
sylwi ar y planhigion bychain, bregus sy’n tyfu yno. .
Llun ⓗCCGC

Llun ⓗCCGC

Arhoswch ar rannau gwastad llawr y
chwarel, gan sefyll, yn ddelfrydol, ar y glaswellt mwy trwchus –
fel arall gallwch wneud difrod mawr gyda’ch traed
Rhaid i ymwelwyr mewn rhannau eraill
fod yng nghwmni staff y Cyngor Cefn Gwlad, er mwyn eu diogelwch eu
hunain ac er mwyn amddiffyn y llystyfiant bregus. Mae peryg o
syrthio ar y clogwyni ac mae creigiau rhydd yn fygythiad i bobl
islaw.
Sut i gyrraedd
Mae’r warchodfa’n agos at y ffin â Lloegr ar ochr ogleddol yr
A44 tua 5.5 km (3 milltir) i’r gorllewin o Dref-y-clawdd, gyferbyn
â’r gyffordd gyda’r B4594.
Mae’r brif fynedfa trwy gât ychydig fedrau oddi wrth ddarn byr o
drac caled sy’n arwain o’r A44.
Does dim llefydd parcio. Y lle gorau i gael llefydd parcio
anffurfiol yw tua 100 metr ar hyd y B4594 gerllaw. Gwnewch yn siwr
nad ydych yn rhwystro unrhyw gatiau neu fynedfeydd.
Llun ⓗCCGC

Cludiant
Mae’r gwasanaeth bws o Henffordd i Landrindod (taith G4, gwasanaeth
461 a 462 ar hyd yr A44 trwy Stanner) yn aros yn agos iawn at
fynedfa’r warchodfa.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth,
cysylltwch â Traveline Cymru ar 0871 2002233
Bywyd gwyllt
Llun ⓗCCGC

Mae’r warchodfa, sy’n serth trwyddi
ac ar y cyfan yn wynebu tua’r de-ddwyrain, yn cynnwys cymysgedd o
goed collddail, glaswelltir a chreigiau brig. Mae’r rhan fwyaf yn
naturiol. Derw ac ynn yw’r coed mawr yn bennaf gyda chyll a chorf
llwyfen llydanddail islaw.
Oherwydd bod y safle’n wynebu’r de-ddwyrain, a gan fod y graig
yn naturiol dywyll a’r pridd yn draenio’n dda, mae’r priddoedd yn
gymharol gynnes ac yn sychu’n gyflym. Gan eu bod yn gwrthod
llystyfiant cryfach, maen nhw’n rhoi lle i blanhigion mwy
arbenigol.
Priddoedd tenau, heb lawer o galsiwm sydd o amgylch y creigiau
brig. Yn ogystal â phocedi bychain o bridd ar silffoedd a chraciau
ar wyneb y graig, mae mwsogl ar y creigiau ac ymylon y coetiroedd
oll yn cynnal rhai o’r planhigion anarferol, sy’n cynnwys:
Llun ⓗCCGC

- Rhwyddlwyn pigfain
- Lluglys gludiog
- Briweg Gymreig
- Pig-yr-aran ruddgoch
- Cor-rosyn cyffredin
- Lili Maesyfed (yr unig safle hysbys yng ngwledydd Prydain)
- Mathau o fwsogl a llysiau’r afu sy’n brin ar raddfa
genedlaethol.
Llun ⓗCCGC

Mae’r tri math o gnocell y coed
brodorol i’w cael yma. Ymhlith y 27 rhywogaeth o löynnod byw a
gofnodwyd yma, mae llwyd y fagwyr a’r brith arianresog. Yn ogystal
â’r boblogaeth gref o forgrug y coed sy’n cael eu denu gan dywydd
cynnes, o graffu, gallwch hefyd weld cricsyn hirgorn y dderwen.
Yn y llociau pori, mae llawer o gwningod yn ogystal â defaid a
merlod sy’n helpu i gadw’r borfa mewn cyflwr addas. Mae poblogaeth
bwysig o bathewod yn byw yma, yn manteisio ar gynefin eang o
brysgwydd a’r mieri.
ERTHYGLAU PERTHNASOL
GWELER HEFYD...
Mapiau Mynediad i Gefn Gwlad
I gael map mwy manwl o’r ardal yn dangos gwybodaeth am fynediad,
gan gynnwys: llwybrau wedi’u hyrwyddo, llwybrau cenedlaethol a thir
mynediad CGHT (CROW).
Map o Ardaloedd Gwarchodedig
I gael map mwy manwl o’r ardal a’r Warchodfa Natur Genedlaethol, yn
ogystal â safleoedd arbennig ychwanegol, gan gynnwys: Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd tirwedd fel Parciau
Cenedlaethol.
GWEFANNAU ERAILL...
Traveline
Cymru
Croeso i Traveline Cymru, eich siop un-cam ar gyfer
amserlenni a cynlluniau teithio, ar draws Cymru, ar bws, coets a
trên.