Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yng ngogledd
orllewin Cymru yn cynnwys 823 milltir sgwâr o gefn gwlad prydferth.
Mae’n cynnwys yr Wyddfa, mynydd uchaf Lloegr a Chymru – sy’n 1085
medr o uchel.

Pobl
Mae’r Parc yn gartref i bron 26,000 o bobl, sy’n byw a gweithio
ar y tir ac yn y trefi a’r pentrefi. Mae cannoedd o filoedd o
ymwelwyr yn treulio amser yma drwy’r flwyddyn – rhwng 6 a 10 miliwn
o ddyddiau ymwelwyr bob blwyddyn. Dringo, cerdded, seiclo,
chwaraeon dŵr yw’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd. Cymraeg yw prif
iaith bob dydd y rhan fwyaf o bobl y Parc – rhan hanfodol o’r
diwylliant bywiog.
Tirwedd
Mae cadwyni mynyddoedd uchaf Cymru a Lloegr yn Eryri, gyda
phedwar copa dros 1000 medr a 14 dros 900 medr. Mae’r tir garw yn
cynnwys llynnoedd ac afonydd a rhostiroedd eang. Mae dyn hefyd wedi
gadael ei ôl gyda chestyll a chwareli a mwynfeydd sy’n segur
bellach. Mae adfeilion tyddynnod a chutiau bugail yn ein hatgoffa
o’r hen batrymau amaethyddol ar ochrau’r mynyddoedd.
Bywyd gwyllt
Gyda’i dirwedd amrywiol a phob math o gynefinoedd – yn
fynyddoedd uchel, dyffrynnoedd coediog, afonydd, llynnoedd ac
arfordir - mae Eryri yn cynnal cymunedau o blanhigion ac
anifeiliaid sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Ymhlith
y planhigion alpaidd arctig sydd i’w canfod yn y copaon uchel mae
Lili’r Wyddfa sy’n unigryw i’r mynydd. Felly hefyd Chwilen yr
Wyddfa neu Chwilen yr Enfys. Yn ddiweddar, mae gweilch y môr wedi
dechrau nythu ar ffin orllewinol y Parc.
Safleoedd wedi eu gwarchod
Mae tua 20% o Barc Cenedlaethol Eryri wedi ei ddynodi’n
safleoedd arbennig gan gyfraith DU ac Ewrop, Ardaloedd Cadwraeth
Arbennig a Safleoedd Ramsar. Mae 17 Gwarchodfa Natur Cenedlaethol
yn Eryri, mwy nag mewn unrhyw Barc Cenedlaethol yn Lloegr a Chymru.
Mae yma 56 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Ymweld â’r Parc
Mae gwasanaethau bws arbennig ar gyfer ymwelwyr â’r Parc
ynteithio mewn cylch o gwmpas yr Wyddfa. Mae canolfan ymwelwyr
newydd yn cael ei hadeiladau ar gopa’r Wyddfa ei hun.