Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

SoDdGA

SoDdGA – Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – yw’r safleoedd pwysicaf o ran treftadaeth naturiol Cymru. Maen nhw wedi eu gwarchod yn ddwys er mwyn diogelu amrywiaeth, ansawdd a rhychwant y cynefinoedd, y rhywogaethau a’r nodweddion daearegol ym mhob rhan o Gymru. Nhw yw conglfeini gwaith cadwraeth yng Nghymru, yn gwarchod calon treftadaeth naturiol y wlad.

Mae mwy na 1,000 SoDdGA yng Nghymru, yn cynnwys 12% o dir y wlad. Y Cyngor Cefn Gwlad sy’n eu dynodi.

Pam fod SoDdGA yn bwysig?

Mae llawer o SoDdGA cynnal bywyd gwyllt a chynefinoedd sydd o bwys rhyngwladol. Cafodd rhai hefyd eu dynodi o dan gynlluniau eraill, sy’n cydnabod mai nhw yw’r safleoedd gorau un o ran treftadaeth naturiol yng Nghymru, y DU ac Ewrop.

Ymhlith safleoedd naturiol mae arfordir, dŵr croyw, ucheldir a safleoedd ar lawr gwlad ac maen nhw’n amrywio o gorsydd bychain neu dwyni tywod i goedydd ac eangderau mynyddig. Maen nhw’n cynnwys mathau pwysig o dir, planhigion a bywyd gwyllt. Mae’r safleoedd daearegol yn amrywio o chwareli i greigiau brig a chlogwyni anferth uwchben y môr.

Sut y caiff SoDdGA eu gwarchod

Caiff pob SoDdGA ei warchod gan y gyfraith rhag difrod trwy ddatblygu neu trwy reoli a gweithgareddau anaddas. Maen nhw hefyd wedi’u gwarchod trwy bartneriaethau gwaith a chytundebau gyda pherchnogion ac eraill sy’n defnyddio’r safleoedd.

SoDdGA a’u perchnogion

Rhaid i’r Cyngor Cefn Gwlad ddweud wrth dirfeddianwyr yn union ble y mae pob SoDdGA a phan ei fod wedi ei warchod. Bydd y Cyngor yn cydweithio gyda’r perchnogion, gan gynnig cyngor, gwybodaeth ac, weithiau, gefnogaeth ariannol.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirweddau (SoDdGAu)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen