Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru

Mae yna 1,1019 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru a’r rheiny’n cynnwys 235,000 hectar, neu ychydig tros 12% o dir y wlad.

Mae SoDdGA yn amrywio o safleoedd bychain iawn i ardaloedd eang.

Dim ond 0.004ha yw’r lleiaf – man clwydo i ystlumod trwyn pedol leiaf yn Sir Benfro.

Mynyddoedd y Berwyn yw’r mwyaf – 24,321 ha o weundir, gyda rhosydd, mawnogydd ac adar yr ucheldir.

Mae pedwar o bob deg SoDdGA yn llai na 10ha; mae wyth o bob deg yn llai na 100ha.

SoDdGA – enillion a cholledion

Bydd safleoedd newydd yn cael eu hychwanegu at restr y SoDdGA Cymreig ond, yn anffodus, mae  rhai yn cael eu tynnu oddi arno hefyd. Yng Nghymru yn 2005-6, ar ôl ystyried colledion ac enillion, cafwyd cynnydd net o ddau safle a 395ha.

 

SoDdGA newydd yn 2005-6

 

Nifer y safleoedd newydd                        3

Safleoedd presennol a estynnwyd            1

Cynnydd mewn arwynebedd                 399ha

 

SoDdGA a gollwyd yn 2005-6

 

Safleoedd a gollwyd (trwy eu dad-ddynodi)                      1

Safleoedd a leihawyd (eu rhan-ddad-ddynodi)            1

Arwynebedd a gollwyd                                               3.7ha

 

Bydd safleoedd yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr oherwydd gwybodaeth newydd am eu pwysigrwydd, oherwydd eu bod wedi eu difrodi neu eu rheoli’n wael, neu oherwydd newid yn yr hinsawdd.

Ble mae’r SoDdGA?

Ar y glannau

Glan-môr neu aberoedd yw tuag 17% o’r tir sydd o fewn SoDdGA. Mae’r rhan fwyaf rhwng llanw uchel a llanw isel, er bod rhai o dan y dŵr. Mae mwy na 75% o’r rhannau hynny o lannau Cymru sydd rhwng dau lanw yn SoDdGA.

Ar yr ucheldir

Dim ond 179 SoDdGA sydd ar yr ucheldir ond maen nhw’n tueddu i fod yn safleoedd eang ac, felly, yn cynnwys 59% o holl arwynebedd y safleoedd Cymreig. Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o wahanol gynefinoedd.

Ar lawr gwlad

Dim ond 25% o’r holl arwynebedd yw’r rhain ond maen nhw’n cynnwys nifer fawr o safleoedd bach sy’n dangos fel y cafodd cynefinoedd naturiol eu darnio gan ddefnydd dyn o dir.

Safleoedd dŵr croyw

Mae tua 24% o brif afonydd Cymru yn SoDdGA, tra bod 35% o arwynebedd llynnoedd Cymru hefyd wedi’i ddynodi.

SoDdGA – yr ardaloedd trefol hefyd

Mae SoDdGA o fewn cyrraedd hawdd i bawb. Mae 253 SoDdGA – bron chwarter y cyfanswm yng Nghymru – o fewn 1 km i dref neu ddinas.

Gallwch ddod o hyd i SoDdGA ger eich cartref trwy ddefnyddio arf chwilio’r Ardaloedd Wedi eu Gwarchod ar y wefan.

Ymweld â SoDdGA

Mae llawer o SoDdGA mewn dwylo preifat a does dim hawl mynediad iddyn nhw. Mae rhai’n agored i ymwelwyr neu’n cynnig mynediad cyfyngedig.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirweddau (SoDdGAu)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen