Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Gwybodaeth bellach am SoDdGA

SoDdGA yng Nghymru

Fel yr asiantaeth cadwraeth statudol yng Nghymru, CCGC sy’n bennaf gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am SoDdGA yng Nghymru. Ffoniwch linell ymholiadau’r Cyngor ar 0845 130 6229 neu e-bostiwch: enquiries@ccw.gov.uk

Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, darperir gwybodaeth drwy wefan CCGC. Mae’r Map o Safleoedd a Thirluniau a Warchodir yn dangos enwau, lleoliadau, arwynebedd a lleoliadau SoDdGA. A gallwch lawrlwytho data ffiniau digidol i’w ddefnyddio yn eich System Gwybodaeth Ddaearyddol eich hun.

Mae CCGC hefyd yn cyhoeddi llyfryn o’r enw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig: Canllaw i dirfeddianwyr a deiliaid; sydd ar gael am ddim trwy'r llinell gymorth.

 

Gwybodaeth am rywogaethau ar SoDdGA

Canolfan Cofnodion Leol

Mae rhestrau o rywogaethau a mapiau ar ddosbarthiad rhywogaethau ar SoDdGA yng Nghymru ar gael o’ch Canolfan Cofnodion Leol. Gallwch hefyd gyfrannu eich sylwadau bywyd gwyllt eich hun i’w rhannu ag eraill.


Borth y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol -National Biodiversity Network (NBN) Gateway

Neu, gallwch chwilio am fapiau dosbarthiad a chofnodion rhywogaethau drwy Porth NBN. Ar y dudalen gartref, ewch at Shortcuts to information > Find a site report by name or map. Isod rhoddir enghraifft o’r math o ddata sy’n cael ei ddal ar SoDdGA.


Gwybodaeth Bioamrywiaeth Byd-eang- Global Biodiversity Information Facility (GBIF) 

Mae’r wefan GBIF yn cynnig persbectif rhyngwladol drwy roi mynediad at ddata bioamrywiaeth y byd drwy eu GBIF. Mae ystod eang o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys Porth NBN y DU, yn cyfrannu at GBIF ac wedi cynnwys eu data ar y wefan. Gallwch weld y data hwn ar Google Earth.

 

SoDdGA mewn mannau eraill yn y DU

Mae gwybodaeth ar gael gan asiantaethau cadwraeth statudol eraill fel a ganlyn:

Lloegr: Natural England SSSI pages

Yr Alban: Scottish Natural Heritage SSSI pages

Gogledd Iwerddon: Northern Ireland Environment Agency Areas of Special Scientific Interest (ASSI) pages

DU: Mae’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) yn cydlynu a chyflawni gwaith ledled y DU ar ran yn cydlynu a chyflawni gwaith ledled y DU ar ran CCGC a’r asiantaethau eraill a nodir uchod. Mae’r Cydbwyllgor yn gyfrifol am adrodd ar statws SDdGA (er enghraifft ar ffurf Monitro Safonau Cyffredin ar gyfer Safleoedd Dynodedig: Adroddiad Chwe Blynedd Cyntaf (Common Standards Monitoring for Designated Sites: First Six Year Report) ac ar ffurf cynhyrchu a diweddaru’r Canllawiau ar gyfer Dewis SDdGA Biolegola ddisgrifir (Guidelines for the selection of Biological SSSIs.)

Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirweddau (SoDdGAu)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen