Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Gwarchod ar SoDdGA

Gwarchod SoDdGA

Os yw nodweddion arbennig y SoDdGA i’w gwarchod, nid yw dynodi’r safleoedd hyn yn gyfreithiol ond yn gam cyntaf. Rhaid i CCGC hefyd greu perthynas gadarn â thirfeddianwyr, deiliaid, asiantaethau eraill a’r cyhoedd i sicrhau:

  • nad yw’r safleoedd yn cael eu difrodi’n fwriadol neu’n ddamweiniol;
  • y cymerir camau cadarnhaol ac ymarferol i reoli a pharhau i reoli cadwraeth y safle.

Cyswllt gyda Pherchnogion a Deiliaid

Dengys cofnodion bod CCGC wedi treulio tua 1,300 o ddiwrnodau yn ystod 2005-06 yn cysylltu â pherchnogion a deiliaid SoDdGA i roi cyngor, gwybodaeth a chymorth. Gallai hyn fod drwy ymweld â’r safle, cyfarfod grŵp neu dros y ffôn, e-bost neu lythyr. Gall staff helpu i dywys y perchennog drwy’r broses o ofyn am ganiatâd hyd at gyflawni gwaith neu ddatblygiadau yn ogystal â rhoi cyngor ar gymorth grant a rheoli cadwraeth ar yr ochr ymarferol.

Gwaith achos

Ymgynghorir yn ffurfiol â’r Cyngor ar ystod eang o geisiadau cynllunio a datblygiadau a gweithgareddau arfaethedig eraill a allai effeithio ar SoDdGA. Bydd y Cyngor yn argymell sut y gellir efallai addasu’r datblygiad i sicrhau na achosir niwed i nodweddion arbennig y safle. Mewn achosion eithafol, os yw’r niwed yn anorfod, gall y Cyngor wrthwynebu i’r cais. Yn 2005-06, deliodd y Cyngor â thua 16,570 o eitemau gwaith achos yng Nghymru, yn fawr a bach, yng nghyswllt SoDdGA a chefn gwlad ehangach.

Traws-gydymffurfio

Mae ‘traws-gydymffurfio’ yn gyflwr o dderbyn cymorth amaethyddol (o dan y Cynllun Taliad Sengl). Mae’n gofyn i ffermwyr gadw’r tir mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da’, ei fod yn cwrdd â gofynion rheoli statudol sy’n golygu cydymffurfio â deddfwriaeth a chytundebau SoDdGA. Treuliodd staff y Cyngor tua 61 o ddiwrnodau yn ystod 2005-06 yn cysylltu â pherchnogion SoDdGA ynghylch materion traws-gydymffurfio. Adroddwyd 23 o achosion tor-deddfwriaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y flwyddyn, o rhain roedd 6 yn ymwneud a SoDdGA.

Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirweddau (SoDdGAu)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen