Ar y tudalennau hyn ceir cysylltau lle gallwch
lawrlwytho amcanion cadwraethol ar gyfer ACA, AGA a safleoedd
Ramsar Cymru.
Ar gyfer safleoedd daearol, caiff yr amcanion eu cynnwys fel
rhan o Gynllun Rheoli Craidd a fydd hefyd yn cynnwys canlyniadau’r
gwaith monitro a chyngor ynghylch unrhyw gamau sydd angen eu
cymryd. Ar gyfer safleoedd morol, caiff amcanion cadwraethol eu
cynnwys o fewn cyngor diwygiedig a gyhoeddir dan Reoliad 33 y
Rheoliadau Cynefinoedd. Mewn rhai achosion, pan fydd dynodiadau’n
gorgyffwrdd â’i gilydd, rydym wedi cynnwys un ddogfen sy’n ymdrin â
dau neu fwy o ddynodiadau.
Erbyn hyn, mae’r safleoedd hyn wedi cael eu rhannu’n unedau
rheoli. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i bawb ddeall pa ddulliau
rheoli sydd eu hangen ar wahanol rannau o’r safle. Gall rhai o’r
llecynnau hyn fod yn fawr iawn. Hefyd, dylai hwyluso’r dasg o
ddisgrifio unrhyw gamau sydd eu hangen er mwyn dod â’r nodweddion i
gyflwr ffafriol neu gyflwr adferol. Mae’r dogfennau hyn yn ymblethu
efo Cronfa Ddata Gweithredoedd ar gyfer safleoedd. Offer cynllunio
ar gyfer partneriaid sy’n gysylltiedig â chyflawni targed
Strategaeth Amgylcheddol Cymru ar gyfer sicrhau bod safleoedd mewn
cyflwr ffafriol yw’r Gronfa Ddata.
Mae’r dogfennau hyn wedi eu casglu trwy ddefnyddio’r wybodaeth
am y safleoedd sydd ar gael i staff y Cyngor Cefn Gwlad, ac yn aml
mae hyn yn llai o lawer nag y byddem yn ei ddymuno. Bydd y
dogfennau’n cael ei diwygio wrth i wybodaeth newydd gael ei chasglu
neu wrth i’r amgylchiadau ar y safleoedd newid. Fe fyddem bob amser
yn falch o gael adborth yn ymwneud â’r dogfennau hyn.