Ein gwaith ni
Mae gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ddyletswydd
dan y gyfraith i edrych ar ôl tirwedd Cymru. Mae ein gwaith yn y
maes hwn yn rhannu’n dri – dewis a gwarchod tirweddau arbennig,
rhoi grantiau a chynnig cyngor.
Dewis y llefydd arbennig
Tirweddau arbennig
- Mae’r Cyngor yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â
pha ardaloedd a ddylai gael eu dynodi’n Barciau Cenedlaethol ac yn
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ar hyn o bryd, mae’r
rheiny’n cynnwys tua chwarter tir Cymru ac yn ardaloedd arbennig
sy’n cael eu gwarchod rhag newid anaddas.
- Byddwn yn rhoi cyngor ynglŷn â diffinio rhai darnau o’r glannau
yn Arfordir Treftadaeth ac rydym hefyd yn nodi’r morweddau mwyaf
gwerthfawr o amgylch arfordir Cymru.
- Roedd gan y Cyngor ran yn y gwaith o greu cofrestr o dirweddau
sydd o ddiddordeb hanesyddol arbennig.
Safleoedd arbennig
- Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru
ynglŷn â dynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Rhaid
i’r awdurdodau cynllunio a’r cwmnïau dŵr, nwy a thrydan ymgynghori
gyda’r Cyngor cyn caniatáu unrhyw ddatblygiad a allai effeithio ar
SoDdGA.
- Mae gan y Cyngor ran yn y gwaith o nodi darpar Ardaloedd
Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd
Ramsar.
- Y Cyngor sy’n datgan pa ardaloedd sy’n Warchodfeydd Natur
Cenedlaethol. Mae’r Cyngor yn aml yn berchen ar y rheiny, neu yn eu
lesio. Mae eraill yn nwylo cyrff cymwys.
- Bydd awdurdodau lleol yn ymgynghori gyda’r Cyngor Cefn Gwlad
cyn sefydlu Gwarchodfeydd Natur Lleol.
Rhoi grantiau
Bydd y Cyngor Cefn Gwlad yn rhoi grantiau i
gefnogi prosiectau sy’n gwella tirwedd ac a fydd, yn aml, yn
helpu’r amgylchedd a bywyd gwyllt yr un pryd. Bydd grantiau hefyd
yn cael eu rhoi at brosiectau mynediad, sy’n ei gwneud hi’n haws i
bobl ymweld â chefn gwlad a’i fwynhau. Mae’r grantiau ar gael i
awdurdodau lleol ac i gyrff yn y sectorau cyhoeddus a
gwirfoddol.
Cynnig cyngor – yr effaith ar lefydd
arbennig
Trydedd swyddogaeth y Cyngor Cefn Gwlad yw
cynghori’r awdurdodau cynllunio ac eraill ynghylch datblygiadau a
allai effeithio ar dirwedd – nid i atal datblygiadau angenrheidiol
na newid, ond i leihau’r effaith ar y dirwedd.